WEA De Cymru - Sefydlwyd 1907
Click here to refresh this page
hafan cyrsiau amdanom ni llwyddiannau cysylltu
ymuno llyfrelloedd wea a learndirect rhwydwaith adnoddau
Llunio'r dyfodol drwy ddysgu democrataidd
Y WEA Yn Ne Cymru
Aeth bron i ganrif heibio ers i’r WEA fod yn flaenllaw mewn addysg gymunedol yng Nghymru, a diolch i Gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd mae wedi gallu sefydlu prosiectau cymunedol a fyddai fel arall wedi ei chael yn anodd dod o hyd i’r adnoddau angenrheidiols.

Mae Adeiladu’r Gymuned Ddysgu neu Prosiect 11, fel y’i gelwir yn y WEA, a Dilyniant Drwy Bartneriaeth (Prosiect 18), yn ddau brosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru – yn cynnig mwy o gyfleoedd i oedolion gymryd rhan mewn dysgu seiliedig yn y gymuned.
Dilynwch y dolenni i ganfod mwy am yr hyn a wnawn. . .
Drwy gynnig rhaglenni dysgu arloesol i bobl mewn cymunedau difreintiedig, nod y prosiectau yw cynnig dilyniant i waith, astudiaeth bellach, a gweithgaredd cymunedol. Ceir llwyddiant hefyd drwy ddatblygu dysgwyr llawn hunan-gymhelliant sy’n gallu elwa ar eu rhwydweithiau dysgu lleol..

Mae’r astudiaethau achos a geir yma yn dangos yr hyn a gyflawnwyd gan y WEA, ac maent yn cynnwys enghreifftiau o ddatblygu a grymuso dysgwyr yn ogystal â hanesion gweithio mewn partneriaeth, sy’n dangos yr hyn y gellir ei wneud pan fo dau fudiad, sydd wedi ymrwymo i ddysgu democrataidd, yn gweithio gyda’i gilydd.
ESF - Objective 1 - Project