WEA De Cymru - Sefydlwyd 1907
Click here to refresh this page
hafan cyrsiau amdanom ni llwyddiannau cysylltu
ymuno llyfrelloedd wea a learndirect rhwydwaith adnoddau
Llunio'r dyfodol drwy ddysgu democrataidd
Y WEA Yn Ne Cymru
Beulah

Mae’r weledigaeth o ddod â Thechnoleg Gwybodaeth i ardaloedd anghysbell yng Ngheredigion yn nod sydd wedi ei gwireddu erbyn hyn gan WEA De Cymru. Oherwydd maint ei hardal ddaearyddol, roedd hi wedi bod yn anodd torri i mewn i’r rhanbarth, gyda logisteg darparu digon o luniaduron a chael gafael ar wasanaethau tiwtoriaid cymwys oedd yn fodlon teithio i’r ardal gymharol bellennig hon.

Ond daeth yr ateb mewn ffordd ffodus ac amserol. Cysylltwyd â’r WEA (Rhanbarth y Gorllewin) gan Dafydd Ladd, cyn-Lywodraethwr yn Ysgol Gynradd Beulah, a oedd wedi llwyddo i ddod o hyd i gyllid i gael gliniaduron i’r ysgol.

Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am y gwaith a wnawn. . .

Ond, er mwyn cynnal dosbarthiadau roedd angen partner arno, a gan ei fod wedi cefnogi gwaith y WEA erioed, teimlai mai dyma’r union fudiad i gydweithio ag ef.
Bu hi’n ferw gwyllt wedyn. Dosbarthwyd deunyddiau hyrwyddo dwyieithog â llaw i siopau papur newydd, Swyddfeydd Post a Llyfrgelloedd yn y Sir, mewn ymgais i gyrraedd darpar ddysgwyr. Yn unol ag agwedd ddemocrataidd y WEA tuag at ddysgu y nod oedd cynnal nifer o sesiynau profi er mwyn ymgynghori â dysgwyr a mesur yr ymateb i’r dosbarthiadau TG arfaethedig. Wedyn, cysylltwyd â thiwtor y WEA, Eleanor Jones. . .

I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .

ESF - Project