| hafan | cyrsiau | amdanom ni | llwyddiannau | cysylltu | ||
| ymuno | llyfrelloedd | wea a learndirect | rhwydwaith | adnoddau | ||
|
|
||||||
Ers nifer o flynyddoedd mae’r WEA wedi bod yn cefnogi Crefftau i Bawb, partneriaeth gymunedol lwyddiannus dros ben. Mae Crefftau i Bawb yn elusen gofrestredig wedi ei lleoli yng Nghrymlyn, ac mae’n darparu hyfforddiant seiliedig ar waith i bobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl. Cafwyd y cyllid gwreiddiol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i sefydlu gweithdy crefft. Mae’r cynnyrch, pethau fel gwaelodion lamp a llestri dal blodau yn cael eu gwerthu wedyn i’r cyhoedd yn y siop anrhegion fechan. Gan dalu am ddau diwtor crefft, mae’r WEA wedi sicrhau y gall y prosiect barhau i gynnig dysgu ymarferol. .
Ceir gweithdai i blant yn ogystal â ffeiriau crefftau rheolaidd i hybu’r cynnyrch ac i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect o fewn y gymuned. Mae’r Rheolwr Prosiect Margaret Betty yn cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth y WEA: "Nid oes gennym ddigon o arian yn dod i mewn i dalu am diwtoriaid ychwanegol. Y fi yw’r unig aelod sy’n cael ei thalu’n llawn amser, dwi’n gwneud y gwaith rheoli a’r ochr ddatblygu, felly doeddwn i ddim yn gallu cymryd y dosbarthiadau felly gallwch weld beth mae’r WEA yn golygu i ni."
I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .
