| hafan | cyrsiau | amdanom ni | llwyddiannau | cysylltu | ||
| ymuno | llyfrelloedd | wea a learndirect | rhwydwaith | adnoddau | ||
|
|
||||||
Mae Debra Summers wedi dod o hyd i’w swydd ddelfrydol diolch i’r sgiliau a ddysgodd drwy gyrsiau’r WEA ym mhentref Cwm, Blaenau Gwent. Enillodd Debra gymwysterau cyfrifiadurol CLAIT ac mae hi’n gweithio tuag at y Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL), tra’n gweithio fel cynorthwy-ydd llyfrgell yn Llyfrgell Cwm. Mae wrth ei bodd yn ei swydd, yn helpu cwsmeriaid o bob oed i bori drwy’r silffoedd llyfrau ac i ddod o hyd i’w ffordd drwy’r cyfrifiaduron a’r safleoedd dysgu.Mae Debra a gollodd ei gwaith gyda’r gwasanaeth pensiwn yng Nglyn Ebwy yn parhau i ddatblygu ei sgiliau ac mae’n anelu am y Dystysgrif mewn Cyflwyno Dysgu i Oedolion gyda’r WEA.”
Dywed Debra, 43: “Mae hon yn swydd hyfryd, yn amrywiol a diddorol, ac rydych am wneud popeth yn dda. “Dwi’n gafael ar bob cyfle i wella fy sgiliau. Dwi wedi dysgu mwy yn y ddwy flynedd ddiwetha nag y gwnes i mewn 20 mlynedd!” Dywed goruchwyliwr Debra, Donna Hardman: “Mae’r ECDL yn hanfodol gan bod cyfrifiaduron yn cael eu defnyddio gymaint nawr ac mae angen y sgiliau i helpu’n cwsmeriaid. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn cynnig dysgu mewn amgylchedd anffurfiol ac mae’n dda bod pobl yn gallu ennill cymwysterau yn y gymuned.”
I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .
