WEA De CYmru - Sefydlwyd 1907
Click here to refresh this page
hafan cyrsiau amdanom ni llwyddiannau cysylltu
ymuno llyfrelloedd wea a learndirect rhwydwaith adnoddau
Llunio'r dyfodol drwy ddysgu democrataidd
Y WEA Yn Ne Cymru
Jayne Davies

Mae yna genhedlaeth o fenywod sydd, wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl magu teulu, yn wynebu’r newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd yn eu habsenoldeb. Roedd Jayne Davies yn un o’r rheiny, ond gyda phenderfyniad a chymorth y WEA, mae hi bellach wedi goresgyn ei phroblemau addysgol cynnar ac wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer byd gwaith heddiw. Heb y sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, ni fyddai Jayne yn gallu cael y math o waith y teimlai y gallai hi ei wneud.

Roedd hi’n benderfynol o beidio â dychwelyd i’r math o waith siop y bu’n ei wneud cyn cael ei phlant, a chofrestrodd mewn coleg addysg bellach i wneud cyflwyniad i Dechnoleg Gwybodaeth.

Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am y gwaith a wnawn. . .

Fodd bynnag, roedd ei hamser negyddol yno yn ddrych o’i phrofiadau ysgol ac roedd yn teimlo’n “hynod o fregus ac unig”. Yn ffodus, cyfarfu Jayne â dysgwr LEA a ddywedodd wrthi y byddai dysgu gyda’r WEA, oherwydd y dosbarthiadau bach a’r dull anffurfiol, yn rhoi’r sylw unigol roedd ei angen arni. Bonws ychwanegol oedd darganfod bod y dosbarthiadau am ddim hefyd, diolch i gefnogaeth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .

ESF - Project