| hafan | cyrsiau | amdanom ni | llwyddiannau | cysylltu | ||
| ymuno | llyfrelloedd | wea a learndirect | rhwydwaith | adnoddau | ||
|
|
||||||
Mae stori Lizzie Parker yn un ryfeddol. Dechreuodd ei thaith ddysgu gyda’r WEA yn 1997 pan gyrhaeddodd Gymru o Northumberland. Mae Lizzie’n dioddef o ddyslecsia ond fel llawer un arall roedd hi wedi cuddio hynny. Fodd bynnag, gyda help a chefnogaeth staff a thiwtoriaid y WEA yng nghangen St Ilan, datblygodd ei hyder yn raddol i wella’i sgiliau. Gwnaeth Lizzie’r mwyaf o bob cyfle, gan fynychu dosbarthiadau ar sgiliau sylfaenol, Technoleg Gwybodaeth ac amrywiaeth o gelf a chrefft. “Ro’n i lawr `na bedair gwaith yr wythnos, roedd fel ail gartre i fi mae wedi bod yn anhygoel.”
Heddiw, fel nifer o ddysgwyr WEA o’i blaen, mae Lizzie nid yn unig yn defnyddio’i sgiliau newydd er ei budd ei hun, ond mae hi hefyd yn eu trosglwyddo i eraill yn ei chymuned. Wedi cael Tystysgrif Cymorth Cyntaf aeth yn wirfoddolwr gydag Ambiwlans Sant Ioan ac mae bellach yn teithio i wahanol ardaloedd yn cynnal dosbarthiadau crefft i Gadetiaid Ambiwlans Sant Ioan. “Ers i fi fod gyda’r WEA, dwi wedi dod allan o’m cragen, dwi’n hoffi cwrdd â phobl newydd - dwi ddim y meudwy yna oedd arfer eistedd yn y gornel”. Mae stori Lizzie yn brawf o fanteision Dysgu Gydol Oes.
I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .
