| hafan | cyrsiau | amdanom ni | llwyddiannau | cysylltu | ||
| ymuno | llyfrelloedd | wea a learndirect | rhwydwaith | adnoddau | ||
|
|
||||||
Mae’n wir nad ydych chi byth yn bell o gangen, grŵp neu ddosbarth WEA lle bynnag y boch yn Ne Cymru, felly ni ddylai fod yn syndod dod o hyd i gwrs Cyflwyniad i Gerddoriaeth gan y WEA yng nghymuned bellennig Maerdy.
Mae cymuned Maerdy - cyn bentref glofaol - reit yng ngogledd y Rhondda Fach gyda phoblogaeth o ryw 3000 o bobl. Roedd yna bedwar pwll glo ar un adeg a chaeodd yr un olaf ym mis Rhagfyr 1990. Ers cau’r pwll, mae Maerdy wedi dioddef gan ddiffyg buddsoddiad a chyfleoedd gwaith.
Mae gweithiwr datblygu’r WEA yn yr ardal yn egluro, “Gwelwyd y byddai Maerdy’n elwa drwy ehangu’r ddarpariaeth yn y celfyddydau, o ran adeiladau cynhwysedd a grymuso’r dysgwr personol.” Wedi i brifysgol leol dynnu’n ôl o ran cyllid, roedd tiwtor WEA yn hapus iawn i gamu i’r bwlch. Dywed y Rheolwr Addysg Rhanbarthol Lynne Hayes, “Er bod llawer o’r cymunedau yma wedi edwino ers cau’r pyllau, rydym yn dechrau gweld blagur adfywiad mae’n bwysig ein bod yn adeiladu ar bethau da’r dreftadaeth ac mae hynny’n cynnwys bod yn gerddorol.”
I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .
