| hafan | cyrsiau | amdanom ni | llwyddiannau | cysylltu | ||
| ymuno | llyfrelloedd | wea a learndirect | rhwydwaith | adnoddau | ||
|
|
||||||
Mae dysgu cynhyrchiol Maisie gyda’r WEA a Phrifysgol Gymunedol y Cymoedd wedi ennill swydd iddi fel derbynnydd mewn canolfan feddygol brysur yn Gaer, Casnewydd. Mae Maisie wedi mynd o sgiliau syflaenol i gwblhau’r Drwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd a hynny wedi ymgymryd â llwyth o gyrsiau ar-lein yng Nghanolfan y WEA ac o dan arweiniad tiwtor yn Oxford House yn Rhisga. Yno, enillodd Maisie gredydau mewn amrywiaeth o gyrsiau yn cynnwys cymdeithaseg yn ogystal â chael cymwysterau cyfrifiadurol CLAIT. Mae hi bellach yn gweithio ar ddesg flaen Canolfan Feddygol y Gaer yng Nghasnewydd swydd a ddaeth ar yr amser iawn wrth i’w mab ieuengaf ddecharu yn y coleg. Roedd Maisie wedi rhoi ei bryd ar weithio unwaith y byddai ei dau fab yn ddigon hen ac mae ei brwdfrydedd at weithio yn dwyn ffrwyth erbyn hyn.
Dywed Maisie, aelod o gangen WEA, “Tyfodd fy hyder wrth i fi wneud mwy o gyrsiau,” “Mae’r staff yn Rhisga wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i mi i gael fy nghymwysterau a’r hyder o’n i ei angen i’m helpu i gael y swydd sydd gen i nawr.” Yn wir cynyddodd ei hyder gymaint fel y bu’n annerch cynrychiolwyr tramor o’r Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd a gwneud darllediad radio i hybu Learndirect. Dywed am ei swydd newydd: “Dwi’n ei mwynhau’n fawr iawn ac yn dysgu o fewn y swydd bob dydd. Dwi’n gweithio gyda thîm da sy’n gefnogol iawn. Do’n i byth yn meddwl y byddwn yn gallu cael swydd fel hon ond roeddwn wedi gobeithio hynny yr holl amser…”
I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .
