WEA De Cymru - Sefydlwyd 1907
Click here to refresh this page
hafan cyrsiau amdanom ni llwyddiannau cysylltu
ymuno llyfrelloedd wea a learndirect rhwydwaith adnoddau
Llunio'r dyfodol drwy ddysgu democrataidd
Y WEA Yn Ne Cymru
Martyn Griffiths a David Bramwell

Mae dau dad ifanc, cyn weithwyr â llaw sy’n dioddef o broblemau corfforol tymor-hir yn dringo’r ysgol sgiliau TGCh yn gyflym iawn tuag at nodau newydd. `Doedd Martyn Griffiths, 36, a David Bramwell, 37, y ddau o Drecynon, ger Aberdâr yn y Rhondda, yn gwybod nemor ddim am TG cyn arwyddo am gwrs cyfrifiadurol elfennol yr oedd yr WEA yn ei redeg yn Hirwaun.

O fewn blwyddyn fe ddringon nhw i lefel 2 City & Guilds mewn cynnal a chadw cyfrifiaduron a chefnogi systemau TG yng Ngholeg Morgannwg, Aberdâr, ac i gwrs sylfaen amlgyfrwng yn y gymuned yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Abertawe.

Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am y gwaith a wnawn. . .

Mae’r ddau’n gobeithio cyfuno’u sgiliau a’u cymwysterau i fynd i bartneriaeth erbyn diwedd 2008, ac maent yn edrych ar yr opsiynau posibl i wasanaethu’r sectorau cartref a masnachol. “Drwy gynnwys gwahanol agweddau a sgiliau ar draws TG i gyd rydym yn gwybod bod y posibiliadau’n ddibendraw,” medd David. “Y mwyaf a wyddwn, y mwyaf o le sydd gennym i chware ynddo.” Dywed Martyn: “Mae’n wych – mae’r cyrsiau yma’n newid ein bywydau. Yn lle bod yn y tŷ drwy’r dydd rydym yn dysgu ac yn darganfod pethau newydd drwy’r amser. Rydym yn gwybod bod angen i ni gael y sgiliau a’r cymwysterau iawn os ydym am gyrraedd at y nod.”

I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .

ESF - Project