| hafan | cyrsiau | amdanom ni | llwyddiannau | cysylltu | ||
| ymuno | llyfrelloedd | wea a learndirect | rhwydwaith | adnoddau | ||
|
|
||||||
Mae Sandy Lavender wrth ei bodd - a braidd yn syfrdan - i’w chael ei hun yn gwneud gwaith swyddog datblygu gyda’r WEA i ardal Torfaen. Enillodd Sandy, sy’n fam i ddwy, gymwysterau mewn cwnsela yn dilyn cyfres o gyrsiau WEA ac enillodd hefyd Dystysgrif mewn Cyflwyno Dysgu i Oedolion. Dysgwr mewn oed yw hi a’i phrofiad a’i dealltwriaeth o ddysgu ochr yn ochr â phobl yn y gymuned a roddodd y cyfle iddi. Mae’n cyfuno’i swydd gyda gweithio tuag at y Dystysgrif Mynediad i Addysg Uwch ac yn ehangu eu sgiliau therapiwtig i gyd-fynd â chwnsela.
Medd Sandy, “Dwi’n dwlu ar y gwaith yma. Mae’n rhoi boddhad mawr i mi. “Mae dysgu yn y gymuned yn rhoi cymaint o syched am wybodaeth i bobl.”
Er mwyn cymhwyso fel cynghorydd, gweithiodd Sandy am 100 o oriau fel gwirfoddolwr, ac roedd hyn yn cynnwys gweithio i’r elusen iechyd meddwl MIND. Ei nod yn awr yw cyfuno’r gwaith datblygu gyda dwy ran o dair o’i hamser yn y WEA a’r gweddill yn ymarfer fel cwnselydd a hypnotherapydd proffesiynol.”
I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .
