WEA De Cymru - Sefydlwyd 1907
Click here to refresh this page
hafan cyrsiau amdanom ni llwyddiannau cysylltu
ymuno llyfrelloedd wea a learndirect rhwydwaith adnoddau
Llunio'r dyfodol drwy ddysgu democrataidd
Y WEA Yn Ne Cymru
Tanya James

“Dim ond dwy flynedd yn ôl roedd cyfrifiaduron yn bethau roedd pobl eraill yn chwarae gyda nhw. Roeddwn yn gwybod pa mor ddefnyddiol oedd cyfrifiaduron ond ddim yn gweld fy hun yn dysgu sut i’w defnyddio, felly dechreuais holi am gyrsiau cyfrifiadur”. Yn sgil hynny, fe’i helpwyd gan ei thiwtor WEA i ffeindio’i ffordd drwy’r “byd cyfrifiadurol” yn Church View, Blaenafon. Medd Tanya, “Erbyn hyn dwi’n defnyddio cyfrifiaduron i bethau bob dydd: cyfnewid y newyddion diweddara gyda’r teulu a ffrindiau yn Rwsia, dod o hyd i ddeunyddiau dysgu i’m gwaith, archebu tocynnau a darganfod pob math o bethau ar y Rhyngrwyd.”

Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am y gwaith a wnawn. . .

“Nawr dwi’n gwybod sut i ffeindio’r wyddor Rwsieg ac ysgrifennu pethau yn fy iaith fy hun”. Mae Tanya’n defnyddio’r rhyngrwyd yn aml, yn “gŵglo” ar gyfer ei dysgu! “Mae rhai o’m hoff wefannau yn ddelfrydol ar gyfer darganfod pethau am fy niddordebau, fel: teithio, dawnsio a phlanhigion tŷ.”

Gyda’i hyder newydd a’i phrofiadau dysgu blaenorol yn Rwsia, mae Tanya bellach yn dysgu Saesneg fel Ail-Iaith i weithwyr o Wlad Pwyl ym Mlaenafon.

I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .

ESF - Project