WEA De Cymru - Sefydlwyd 1907
Click here to refresh this page
hafan cyrsiau amdanom ni llwyddiannau cysylltu
ymuno llyfrelloedd wea a learndirect rhwydwaith adnoddau
Llunio'r dyfodol drwy ddysgu democrataidd
Y WEA Yn Ne Cymru
Y Gymdeithas Strôc

Aeth canrif heibio bellach ers i’r WEA ddechrau sefydlu addysg gymunedol yng Nghymru, a diolch i Gronfa Gymdeithasol Ewrop gallodd roi cychwyn ar brosiectau cymunedol a fyddai’n cael trafferth fel arall i ddod o hyd i’r adnoddau angenrheidiol. Mae’r bartneriaeth rhwng y WEA a’r Gymdeithas Strôc yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fo dau fudiad, sydd wedi ymroi i ddysgu democrataidd, yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cymuned ddysg.

Dilynwch y dolenni isod i ddarganfod mwy am y gwaith a wnawn. . .

Yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr roedd dau wasanaeth yn bodoli’n barod: grŵp cefnogi strôc i holl ddioddefwyr strôc, a grŵp cefnogi dysffasia i bobl yr oedd strôc wedi effeithio ar eu hiaith a’u lleferydd. Mae Karyl Carter, cydlynydd grŵp ym Maesteg, yn egluro gweledigaeth y grŵp “Roeddem am sefydlu'r hyn rydyn ni’n ei alw’n Grŵp Gweithredu Positif i Strôc... i roi rhywbeth i’r bobl yma y gallen nhw ei ddefnyddio i fynd ymlaen i wneud pethau eraill”. I lawer o ddioddefwyr strôc mae colli eu hyder a’u hunan-barch, yn golygu y gall dychwelyd i ddysgu fod yn frawychus.

I lawrlwytho’r erthygl hon, cliciwch yma . . .

ESF - Project