Learndirect dewis dysgu cenedlaethol. . .
. . .a bellach mae WEA De Cymru wedi cofrestru ei 2000fed dysgwr Learndirect!
Caroline Wilson (yn y llun), o Rhisga ger Casnewydd oedd y dysgwr lwcus a gerddod i mewn i un o’n canolfannau niferus yn ddiweddar a dod yn 2000fed dysgwr ar-lein y WEA
.
Roedd Caroline eisiau dysgu mwy am gyfrifiaduron er mwyn helpu ei phlant, ac ar y un pryd ennill cymhwyster cydnabyddedig.
Heb fawr o brofiad a gyda chyngor a chymorth gan staff y ganolfan, cofrestrodd Caroline ar gwrs cyfrifiaduron i ddechreuwyr ac fe’i cwblhaodd yn gyflym iawn.
Agorodd y WEA ei ganolfan ddysgu ar-lein gyntaf yn Rhisga ym mis Mai 2001 fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion. Yn 2002 agorwyd canolfannau eraill yn Cwm (ger Glyn Ebwy) ac y
ng nghanol tref Merthyr Tudful. Y llynedd ehangwyd y ddarpariaeth mewn gwahanol ganolfannau RISE drwy Flaenau Gwent a Chanolfan Gweithredu Dysgu RISE ym Mlaenafon.
Mae gan Ganolfannau Learndirect y WEA gyfleusterau TG ardderchog, yn cynnwys cyfrifiaduron i ddysgwyr gyda mynediad band-eang i’r rhyngrwyd, ac maent yn cynnig ystod eang o gyrsiau Learndirect gyda’r cyrsiau cyfrifiaduron y rhai mwyaf poblogaidd. Mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau cyflwyno TG sylfaenol i rai eraill tipyn mwy uchelgeisiol.
Yn ogystal â chyrsiau TG, mae llawer o ddysgwyr yn dewis cofrestru ar gyrsiau Busnes a Rheolaeth, i wella’u sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Mae’n rhaid archebu lle ar Pwyntiau Mynediad (Access Points) ond maent yn ceisio cynnig gwasanaeth mwy hyblyg pan maen nhw’n gallu. Mae’r oriau agor yn gyfleus sy’n cyd-fynd yn dda â bywydau’r dysgwyr. Am ragor o wybodaeth ar Bwyntiau Mynediad Learndirect y WEA, cysylltwch â ni heddiw! Mae’r lleoliadau i gyd yn cynnig cyfleusterau ardderchog yn ogystal â staff cyfeillgar i roi cyngor ac arweiniad.
Ffôn:
Canolfan TGCh WEA Rhisga - 01633 613680
WEA Blaenafon - 01495 791128
neu ein
Canolfan ddysgu Ar-lein WEA, Merthyr Tudful
- 01685 382710
. . .neu cliciwch yma fam wybodaeth am eich canolfan WEA De Cymru agosaf. . .