Ymunwch â ni!
Dewch yn aelod o WEA De Cymru am £3 y flwyddyn neu £1 i’r di-waith.
Mae bod yn aelod yn eich galluogi i:
- ymuno â mudiad gwirfoddol cyfoes gyda thraddodiad o ddemocratiaeth sy’n mynd yn ôl bron i ganrif (fe’i sefydlwyd yn y DU gan Albert Mansbridge, ar y dde)
- cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau aelodau yn cynnwys digwyddiadau astudio a chymdeithasol
- derbyn copïau rheolaidd Hysbysu - cylchgrawn y WEA De Cymru
- rhoi’ch barn am sut mae’r WEA yn cael ei redeg a beth mae’n ei wneud
- ethol cynrychiolwyr i’r Cyngor pwyllgor rheoli’r WEA
- mynychu’r Cyfarfod Blynyddol ac o leiaf un Cyfarfod Blynyddol arall bob blwyddyn.
Os hoffech gefnogi’r WEA heb ymaelodi gallwch fod yn
gyfaill i’r WEA. Fel cyfaill byddwch yn:
- derbyn copïau rheolaidd o Hysbysu bob blwyddyn
- cryfhau gallu’r Mudiad i redeg a chynnal cyrsiau nad oes cymwysterau ar gael iddynt er enghraifft ar faterion cyfoes Cymreig
- helpu i ariannu ymgyrchoedd i gael cyllid teg i ddysgu gydol oes.
Os hoffech fod yn aelod neu’n gyfaill i WEA De Cymru, cysylltwch â ni ar (029) 202 35277 neu e-bostiwch ni ar weasw@swales.wea.org.uk
Os yw’n well gennych, anfonwch rodd ynghyd â’ch manylion cyswllt i:
WEA De Cymru (Swyddfa Ganolog), 7 Clos y Cowper, Heol Curran, Caerdydd CF10 5NB /
WEA South Wales (Central Office), 7 Clos y Cowper, Heol Curran, Caerdydd CF10 5NB